Education

Addysg

Mary Jones World is a fun and educational day out for school children that connects with various areas of the KS2 curriculum.

Why bring your class?

Mary Jones World, a state-of-the art visitor and education centre, allows pupils to step back in time as they discover the historic story of Mary Jones whilst learning how she inspired a movement that is still thriving today.

Pupils are able to actively engage with the story as they experience it through a variety of multimedia and interactive displays, exhibits and activities.

If you’re looking to bring history, RE or the Welsh language to life for your pupils, book a group visit to Mary Jones World. The bespoke education facility, redeveloped Grade 2-listed building, playground and picnic area set on the edge of Lake Bala provide the perfect setting for pupils to learn whilst having plenty of fun. Pupils can also see Thomas Charles’ inkwell and pay a visit to his grave.

The school room is the perfect rainy day lunch spot at Mary Jones World.

School groups of all ages from KS2 to college level can learn about the story of Mary Jones, the importance of the Bible for the Welsh language, the Bible itself and the impact the work of Bible Society has had around the world. Welsh language and English language visits can be provided. Visits can be shaped around the curriculum for history, Welsh language and RE. Pupils complete a workbook based on the exhibition during their visit to focus their learning.    

Downloads 

Mary Jones Information Sheet

A summary of Mary Jones’ story, her journey and her legacy with activities for children based on the information.

Download

Education pack

Our school information pack

Download

Mae Byd Mary Jones yn ddiwrnod addysgiadol yn llawn hwyl i’r plant ddaw yma gan ei fod yn gysylltiedig gydag adrannau amrywiol o gwricwlwm CA2.

Pam dod a’ch dosbarth?

Mae Byd Mary Jones, canolfan ymwelwyr ac addysg o’r radd flaenaf, yn caniatáu i ddisgyblion gamu yn ôl mewn amser wrth iddynt ddarganfod stori hanesyddol Mary Jones tra’n dysgu sut y gwnaeth ysbrydoli mudiad sy’n dal i ffynnu heddiw.

Mae disgyblion yn gallu ymgysylltu’n weithredol â’r stori wrth iddynt ei phrofi drwy amrywiaeth o arddangosfeydd rhyngweithiol, aml-gyfrwng, arddangosfeydd a gweithgareddau.

Os ydych yn ystyried dod â hanes, addysg grefyddol neu’r iaith Gymraeg yn fyw i’ch disgyblion, archebwch ymweliad grŵp i Fyd Mary Jones. Mae’r cyfleuster addysgol pwrpasol, yr adeilad rhestredig Gradd 2, sydd wedi’i adnewyddu, y man chwarae a’r ardal bicnic sydd ar lan Llyn Tegid yn darparu’r lleoliad perffaith i ddisgyblion ddysgu tra’n cael digon o hwyl. Gall disgyblion hefyd weld pot inc Thomas Charles a thalu ymweliad â’i fedd.  

Mae Ysgoldy Thomas Charles yn Byd Mary Jones  yn lle delfrydol am fwyd ar ddiwrnod gwlyb.

Gall grwpiau ysgol o bob oed o CA2 i lefel coleg ddysgu am stori Mary Jones, pwysigrwydd y Beibl i’r iaith Gymraeg, y Beibl ei hun ac effaith gwaith Cymdeithas y Beibl o amgylch y byd. Gellir darparu ymweliadau mewn Cymraeg neu Saesneg. Gellir siapio ymweliadau o amgylch y cwricwlwm hanes, yr iaith Gymraeg ac addysg grefyddol. Mae disgyblion yn cwblhau llyfr gwaith yn seiliedig ar yr arddangosfa er mwyn canolbwyntio eu dysgu yn ystod eu hymweliad.  

Lawrlwythiadau

Taflen wybodaeth Mary Jones

Mae’r daflen hon yn crynhoi hanes Mary Jones, ei thaith a’i hetifeddiaeth gyda gweithgareddau i blant yn seiliedig ar yr wybodaeth.

Lawrlwytho

Lawrlwytho y pecyn addysgol

Pecyn Ymweliad Ysgol

Lawrlwytho

The practicalities

The maximum number of children at any one time is 30.

We have a generic risk assessment form for schools – please complete the relevant sections before your visit.

The cost is £2.50 per child, with no charge for teachers. A 10% discount will apply for groups of 15 or more children. Each child will receive a free Bible story book at the end of their visit.

There is space for children to store their coats, packed lunches and backpacks in our  bespoke education facility – the Thomas Charles School House.

Yes. Children can take photos, video and audio; copyright on the material within the centre remains with Bible Society.

The education officer, Nerys Siddall, on 0808 1784 909 or by email at [email protected]

If raining, please bring waterproofs and appropriate footwear. The car park and classroom is a short two-minute walk from the centre.

Qualified first aiders are available at all times.

A small shop is available to purchase books and souvenirs. Pupils should bring a packed lunch, which can be enjoyed in our classroom or picnic area. A small kiosk with refreshments is available by prior arrangement.

There is wheelchair access throughout.

School visits are welcome by prior arrangement at any time of the year.

For general visiting hours, click here.

Y pethau ymarferol

Y nifer mwyaf o blant ar unrhyw bryd yw 30.

Mae gennym ffurflen asesu risg generig ar gyfer ysgolion – cwblhewch yr adrannau perthnasol cyn eich ymweliad os gwelwch yn dda.

Y gost yw £2.50 y plentyn, ac ni chodir tâl am athrawon. Mae gostyngiad o 10% yn gymwys i grwpiau o 15 o blant neu fwy. Bydd pob plentyn yn derbyn llyfr storïau o’r Beibl ar derfyn eu hymweliad.

Mae lle i blant gadw eu cotiau, pecyn cinio a bagiau cefn yn ein cyfleuster addysg pwrpasol –Ysgoldy Thomas Charles.

Gallwch, gall plant dynnu lluniau, fideo a sain; mae hawlfraint ar ddeunydd yn parhau i fod yn eiddo Cymdeithas y Beibl.

Nerys Pritchard, y swyddog addysg, ar 0808 1784 909 neu drwy e-bost: [email protected]

Os yw’n bwrw glaw, dewch â dillad dal dŵr ac esgidiau priodol. Dim ond dau funud a gymer i gerdded o’r maes parcio a’r ystafell ddosbarth i’r ganolfan.

Mae pobl sydd â cymhwyster cymorth cyntaf ar gael bob amser.

Mae siop fach ar gael i brynu llyfrau a chofroddion. Dylai disgyblion fod â phecyn cinio y gellir ei fwynhau yn ein hystafell ddosbarth neu ardal picnic. Mae ciosg bach gyda lluniaeth ar gael drwy drefniant ymlaen llaw.

Mae mynediad i gadeiriau olwyn i bobman.

Ar agor i’r cyhoedd 1 Ebrill tan 31 Hydref, 10.00–5.00 (mynediad olaf 4.00 pm), 7 diwrnod yr wythnos.

Croesewir ymweliadau ysgolion drwy drefniant ymlaen llaw ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Edrychwch ar ein tudalen Ymweld/Cysylltu ar gyfer ein horiau agor arferol

A typical visit

The visit begins with a presentation about the background of Mary Jones World in the Thomas Charles School House. Pupils can store their belongings here for the duration of the visit

After the presentation, pupils walk through the graveyard to Mary Jones World, past the grave of Thomas Charles.

Pupils will be able to see a facsimile one of the Mary Jones Bibles at the centre.

In Mary Jones World, pupils are provided with a workbook to complete as they gather information from the interactive displays, exhibits and video. The workbook focuses on Mary Jones, the Bible and the impact of the Bible worldwide.

A member of Mary Jones World staff remains with the children throughout the visit.

After the exhibition, pupils have a chance to reflect and discuss their visit.

If school groups have brought packed lunches, they can use our picnic tables and enjoy the picturesque view of Llyn Tegid. Drinks, sandwiches, chocolate and ice cream are available to purchase in the café in the Thomas Charles School House at very reasonable prices.

There is also be an opportunity to enjoy the play area during the visit.

Ymweliad nodweddiadol

Mae’r ymweliad yn dechrau gyda chyflwyniad am gefndir Byd Mary Jones yn Ysgoldy Thomas Charles. Gall disgyblion gadw eu heiddo yma yn ystod yr ymweliad.  

Wedi’r cyflwyniad mae disgyblion yn cerdded drwy’r fynwent i Fyd Mary Jones. 

Caiff y plant weld ffacsimili un o Feiblau Mary Jones yn y ganolfan.

Ym Myd Mary Jones, rhoddir llyfrau gwaith i’r disgyblion i’w cwblhau wrth iddynt gasglu gwybodaeth o’r arddangosfeydd rhyngweithiol, arddangosiadau a fideo. Mae’r llyfr gwaith yn canolbwyntio ar Mary Jones, y Beibl ac effaith y Beibl ledled y byd.   

Bydd aelod o staff Byd Mary Jones yn aros gyda’r plant drwy gydol yr ymweliad.   

Ar ôl gweld yr arddangosfa bydd cyfle i’r disgyblion i fyfyrio a thrafod eu hymweliad.

Os yw grwpiau o ysgolion wedi dod â phecynnau bwyd, gallant ddefnyddio ein byrddau picnic a mwynhau’r olygfa hardd o Lyn Tegid. Gellir prynu diodydd, brechdanau, siocled a hufen iâ am bris rhesymol iawn yn y caffi yn Ysgoldy Thomas Charles. 

Bydd cyfle hefyd i fwynhau’r man chwarae yn ystod yr ymweliad.

Further opportunities

We are happy to contact other places in Bala that have a Thomas Charles connection to further enhance your trip. For example, the statue outside Capel Tegid and Barclays Bank (Formerly Thomas Charles’ house).

Cyfleoedd pellach

Rydym yn fodlon cysylltu â mannau eraill yn y Bala sydd â chysylltiad â Thomas Charles i wella eich taith ymhellach. Er enghraifft, cerflun Thomas Charles y tu allan i Gapel Tegid a Banc Barclays (Tŷ Thomas Charles yn flaenorol).

KS2 Curriculum

  • RE Curriculum: the story of Mary Jones will fit well with their study of Christianity.
  • Welsh Curriculum: study the influence of the Bible on the history and language of Wales.
  • Study a particular theme: e.g. an influential religious figure like William Morgan or Thomas Charles, the Welsh Sunday School movement or pilgrimage.
  • Study a geographical area: Y Bala and its religious influence on Wales and the rest of the world.
  • Study sacred texts: what’s the Bible’s message and what influence has it had on people.
  • In order to complete the various activities, children will use key skills such as listening, writing, reading and understanding, group discussion, studying the Bible and map work.
  • Religion and the world: the work Bible Societies undertake around the world to make the Bible available in numerous languages.

Different subjects

  • Welsh: the Welsh language e.g. William Morgan translating the Bible and the Bible being a way of helping people to read.
  • History: Mary Jones’ story, Thomas Charles and William Morgan are a big part of the history of Wales.
  • RE: the influence the Bible has had.
  • Geography: significant religious sites in Wales and worldwide.
  • Maths: putting various dates in order.
The day is interactive and engaging, bringing the story to life.

Cwricwlwm CA2

  • Cwricwlwm Addysg Grefyddol: bydd stori Mary Jones yn cyd-fynd yn dda gyda'u hastudiaeth o Gristnogaeth.
  • Cwricwlwm Cymraeg: astudio dylanwad y Beibl ar hanes ac iaith Cymru.
  • Astudio thema benodol: e.e. ffigwr crefyddol dylanwadol fel William Morgan neu Thomas Charles, y mudiad Ysgolion Sul yng Nghymru neu bererindod.
  • Astudio ardal ddaearyddol: Y Bala a'i ddylanwad crefyddol ar Gymru a gweddill y byd.
  • Astudio testunau sanctaidd: beth yw neges y Beibl a pha ddylanwad a gafodd ar bobl.
  • Er mwyn cwblhau'r gwahanol weithgareddau, bydd plant yn defnyddio sgiliau allweddol fel gwrando, ysgrifennu, darllen a deall, trafodaeth grŵp, astudio'r Beibl a gwaith map.
  • Crefydd a'r byd: y gwaith a wneir gan Gymdeithasau'r Beibl o amgylch y byd i sicrhau fod y Beibl ar gael mewn nifer o ieithoedd.

Gwahanol bynciau

  • Cymraeg: yr Iaith Gymraeg e.e. William Morgan yn cyfieithu'r Beibl a'r Beibl yn ffordd o helpu pobl i ddarllen.
  • Hanes: mae stori Mary Jones, Thomas Charles a William Morgan yn rhan fawr o hanes Cymru.
  • Addysg Grefyddol: y dylanwad a gafodd y Beibl.
  • Daearyddiaeth: safleoedd crefyddol arwyddocaol yng Nghymru a ledled y byd.
  • Mathemateg: rhoi gwahanol ddyddiadau mewn trefn.
Mae’r diwrnod yn rhyngweithiol ac ymgysylltiol, ac yn dod â’r stori yn fyw.

Share this